Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Tachwedd 2021
Amser:
13.30 -
16.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12474
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Yr Athro Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe Dr Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith, Bangor Law School |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhys Morgan (Clerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau.
2 Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch cytundebau rhyngwladol.
3.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
3.2 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd (Cymru) y Cyngor Defnyddwyr Dŵr at y Cadeirydd ynghylch effaith y pandemig ar lefelau dyled
3.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
3.3 Dyled a'r pandemig: tystiolaeth ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru
3.3a Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig ychwnaegol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldebau a hawliau dynol yng Nghymru - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
6 Dyled a'r pandemig - trafod yr adroddiad drafft
6.1 Bu’r Aelodau’n trafod ac yn ystyried yr adroddiad drafft ac yn amodol ar fân newidiadau, byddant yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ac yn ystyried yr adroddiad drafft a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau, bydd yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.
8 Blaenraglen waith
8a. Bu'r Aelodau'n trafod ac yn ystyried gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol a hefyd ymatebion yn ymwneud â llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
8.1 Blaenraglen waith a chynllunio strategol o ran y camau nesaf
8.2 Cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: y stori hyd yma - trafod yr ymatebion